Cookies and this website

This website uses cookies to give you the best online experience. If you'd like to know more please read our cookie policy

Skip to content

Latest news

Llywodraeth Cymru: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE / Welsh Government: EU Settlement Scheme

Published: Thursday 13 May 2021

Mae Cymru yn gartref i filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n cyfoethogi ein cymunedau ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n llwyddiant economaidd. Maen nhw'n ffrindiau i ni, yn gymdogion, yn gydweithwyr neu hyd yn oed yn aelodau o'n teulu. Gallai gweld dinasyddion yr UE yn gadael y DU gael effaith sylweddol ar gymunedau a gweithleoedd Cymru, ac felly mae angen inni godi ymwybyddiaeth am hawliau dinasyddion a'u helpu i aros yma.

Gall dinasyddion yr UE a'u teuluoedd sydd wedi bod yn preswylio'n barhaus yn y DU am bum mlynedd tan 31 Rhagfyr 2020 wneud cais am statws preswylydd sefydlog drwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog y DU i Ddinasyddion yr UE. Byddant yn parhau i allu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau yn y DU ar yr un sail ag yn awr. Bydd y rhai nad ydynt wedi bod yn preswylio'n barhaus am bum mlynedd yn gymwys am statws preswylydd cyn-sefydlog. Byddant hefyd yn gallu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau ar yr un sail ag yn awr.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gyngor a chymorth cyfreithiol rhad ac am ddim i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.

Mae'r pecyn cefnogaeth hwn yn:

• Cynnig cymorth gyda cheisiadau a rhoi cyngor ar faterion lles a hawliau yn y gweithle drwy rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru;

• Darparu gwasanaeth cynghori ar fewnfudo sy'n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, drwy gwmni cyfreithiol sy'n arbenigwyr ar fewnfudo, Newfields Law;

• Cynyddu'r ddarpariaeth o ganolfannau cymorth digidol yng Nghymru – i helpu'r rhai heb fynediad at dechnoleg ddigidol i wneud cais am statws preswylydd sefydlog;

• Gweithio gydag amryw o elusennau a phartneriaid ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r angen i wneud cais am statws preswylydd sefydlog mewn cymunedau anodd cyrraedd atynt ac agored i niwed.

Mae gwefan Paratoi Cymru yn rhoi darlun clir o'r gwasanaethau cyngor am ddim sydd ar gael yng Nghymru. Ewch i https://llyw.cymru/paratoi-cymru/dinasyddion-yr-ue. Y dyddiad olaf ar gyfer ymgeisio yw 30 Mehefin 2021.

 

Wales is home to thousands of EU citizens who enrich our communities and contribute to our public services and economic success immeasurably. They are our friends, our neighbours, our work colleagues and our family members. The impact here in Wales, in our community and our workplaces of EU citizens leaving the UK could be quite significant, and so we need to increase awareness of citizens’ rights and support them to remain here.

EU citizens and their families who have been continuously resident in the UK for five years until 31 December 2020 may apply for settled status through the UK Government’s EU Settlement Scheme. They will continue to be able to work, study, and access benefits and services in the UK on the same basis as they do now. Those who have not been continuously resident for under five years will be eligible for pre-settled status. They will also be able to work, study and access benefits and services on the same basis as now.

The Welsh Government is providing a package of free legal advice and support to help EU citizens prepare for Brexit and continue to live and work in Wales.

This package of support:

• Offers support with applications and gives advice on social welfare issues and workplace rights through the network of Citizens Advice throughout Wales;

• Provides an immigration advice service offering specialist support for complex cases, delivered by immigration legal specialists, Newfields Law;

• Increases the provision of digital support centres in Wales – to help those without the digital means to apply for settled status;

• Works with a range of charities and partners across Wales to raise awareness of the need to apply for settled status in hard-to-reach and vulnerable communities.

The Preparing Wales website provides more information on applying to the EU Settlement Scheme. Visit https://gov.wales/preparing-wales/eu-citizens. The deadline for applying is 30 June 2021.

 


EU CITIZENS - EU SETTLEMENT APPLY TO THE SCHEME

Published: Wednesday 27 January 2021

If you are an EU citizen1, resident in the UK by 31 December 2020, you and your family members (including non-EU citizens) need to apply to the EU Settlement Scheme to continue to live, work and study in the UK beyond 30 June 2021.  Please click here for further information.

 

Mae'r wybodaeth yn y daflen wybodaeth wedi'i chynhyrchu gan Lywodraeth y DU ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

 


Chefnogi Pobl / Supporting People

Published: Wednesday 9 December 2020
Chefnogi Pobl / Supporting People

Cymorth i chwilio am gartref a gwaith. Cymorth gyda llenwi ffurflenni,dyledion, budd-daliadau, gorchymyn troi allan, ôl-ddyledion rhent/morgais. Cysylltwch â Chefnogi Pobl: 01443 864548
I weld dogfen PDF gyda rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Help finding housing and work. Support with form filling, debts, benefits, eviction notice, rent/mortgage arrears. Contact Supporting People: 01443 864548


Tîm Gweithwyr Arweiniol Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili - Atal Digartrefedd, Trawsnewid Bywydau / Caerphilly Youth Service Lead Worker Team - Preventing Homelessness, Transforming Lives

Published: Wednesday 9 December 2020

Benthyciadau Arbed Tenantiaeth / Tenancy Saver Loans

Published: Tuesday 13 October 2020

YDYCH CHI’N DENANT YN Y SECTOR RHENTU PREIFAT? YDYCH CHI’N CAEL TRAFFERTHION I DALU RHENT OHERWYDD COVID-19? GALLECH FOD YN GYMWYS I WNEUD CAIS AM FENTHYCIAD LLOG ISEL GAN UNDEB CREDYD – AC MAE GENNYCH HYD AT BUM MLYNEDD I’W DALU’N ÔL.

I weld dogfen PDF gyda rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

ARE YOU A PRIVATE RENTED SECTOR TENANT? HAS COVID-19 LEFT YOU STRUGGLING TO PAY YOUR RENT? YOU COULD BE ELIGIBLE TO APPLY FOR A LOW INTEREST LOAN FROM A CREDIT UNION - WITH UP TO FIVE YEARS TO PAY IT BACK.

To view a PDF document with further information please click here.

For further information please click here