Test
Mae seremoni torri'r dywarchen gyntaf wedi cael ei chynnal ar ddatblygiad arloesol yng Nghaerffili.
Bydd 34 o gartrefi i'w prynu a'u rhentu yn cael eu hadeiladu yng Ngerddi Coed y Ffawydden, sy'n agos i ganol tref Caerffili, o dan frand Harmoni Homes.
Bydd y datblygiad yn fodd i fwy o gartrefi gael eu hadeiladu ar dir sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd, yn sgil cytundeb rhwng y Cyngor a Grwp Cymdeithas Tai Unedig Cymru.
Bydd cymysgedd o gartrefi tair a phedair ystafell wely i'w prynu, yn ogystal â chartrefi dwy a thair ystafell wely a fflatiau un ystafell wely i'w rhentu yn cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiad Gerddi Coed y Ffawydden ar Watford Road, sy'n agos at safle arobryn ‘The Beeches’ a ddatblygwyd gan Gymdeithas Tai Unedig Cymru.
Mae llawer o alw am gartrefi o ansawdd da yng Nghaerffili a bydd y datblygiad hwn yn sicrhau bod modd i fwy o gartrefi gael eu hadeiladu, gyda'r elw a wneir o'r eiddo yn cael ei ailfuddsoddi er mwyn helpu i dalu am adeiladu cartrefi rhent fforddiadwy.
Bydd y Cyngor yn elwa ar rywfaint o adenillion o rentu'r cartrefi yn gyfnewid am adael i Gymdeithas Tai Unedig Cymru ddatblygu ar y tir. Mae'r cartrefi sydd ar werth yn cael eu marchnata o dan frand ‘Harmoni Homes’ sy'n rhan o Gymdeithas Tai Unedig Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Reynolds, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Roedd yn braf iawn gweld bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar y safle. Mae darparu marchnad o ansawdd da a chartrefi fforddiadwy yn ein bwrdeistref sirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, ac mae partneriaethau fel hyn yn ein helpu i gymryd camau breision tuag at gyflawni hyn.
“Nid yn unig y mae datblygiadau fel hyn yn ein helpu'n fawr i ddiwallu anghenion o ran tai yn ein hardal, ond mae ganddynt hefyd botensial gwirioneddol i sicrhau buddiannau pellgyrhaeddol i'r gymuned ehangach, gyda'r elw'n cael ei gadw i'w ailfuddsoddi mewn rhagor o dai cynaliadwy.”
Meddai Cyfarwyddwr Datblygu Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Richard Mann, “Mae'n bleser gennym lansio ein cynllun cyntaf o dan frand Harmoni Homes, a fydd yn arwain at adeiladu 16 o gartrefi o ansawdd mewn lleoliad ardderchog.
“Edrychwn ymlaen at weld y datblygiad hwn yn dwyn ffrwyth. Mae hon yn bartneriaeth arloesol ac arwyddocaol rhwng Grwp Cymdeithas Tai Unedig Cymru a'r Cyngor a fydd yn arwain at ddarparu cartrefi o ansawdd da, sy'n bodloni manyleb uwch a gofynion dylunio cynaliadwy, ac yn cyfrannu at ddiwallu anghenion Caerffili o ran tai. Yn ogystal â'r cartrefi newydd, rydym wedi ymrwymo i ddarparu 197 o wythnosau â thâl, a 38 o wythnosau di-dâl, o leoliadau hyfforddi yn y diwydiant adeiladu i bobl leol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Harmoni Homes neu i wneud ymholiadau am ddatblygiad Gerddi Coed y Ffawydden, ewch i www.harmonihomes.com neu ffoniwch 029 2085 8145.